Sut i ychwanegu neu olygu person

Gellir defnyddio cofnodion pobl nid yn unig i storio ac adrodd ar wybodaeth, gellir gwahodd person i greu mewngofnod, a chyrchu ardaloedd yn seiliedig ar eu rôl

Sut i ychwanegu person:

  1. O tu fewn i'r ardal 'People' cliciwch 'Create Person'
  2. Mewnbynnwch fanylion y person (cwblhewch y meysydd sy'n angenrheidiol ar gyfer eich grŵp)
  3. Dewiswch o'r gwymplen pa rôl sydd gan y person -
  4. Pan fyddwch wedi'i gwblhau cliciwch  'Create User'
  5. Ar waelod y sgrin fe welwch yr opsiwn i'Invite User', bydd hwn yn anfon gwahoddiad i'r defnyddiwr i greu mewngofnod i'r platfform, ac i gael mynediad i'r ardaloedd a ddiffinnir gan eu rôl. Mae angen cyfeiriad e-bost i greu mewngofnod, ni ellir gwahodd defnyddiwr heb un.
  6. Os oes data y mae'n rhaid i chi ei gofnodi, sydd ddim yn ymddangos ar y ffurflen ddiofyn, gallwch greu meysydd cwstwm sy'n ymddangos yng nghofnod y defnyddiwr.

Am fwy o wybodaeth am Custom Fields cliciwch yma

Am fwy o wybodaeth am  Rolau cliciwch yma