Adroddiadau - Esboniwyd

Mae meddalwedd Groop yn cynnig amrywiaeth eang o adroddiadau, o adroddiadau gronynnog penodol iawn a grëwyd trwy ein nodwedd hidlo adeiledig, a hefyd adroddiadau mawr generig sydd i'w weld yn yr adran 'Reports' yn y bar glas.

  1. Yn y bar glas cliciwch ar    yma gallwch redeg nifer o adroddiadau gwahanol.
  2. Dewiswch yr adroddiad yr ydych am ei redeg, er enghraifft 'Member Information' ac yna cliciwch 'Get Report '
  3. Gallwch hefyd ddewis ‘Show Archived' trwy symud y llithrydd, mae hyn yn golygu, os oes unrhyw ddefnyddwyr wedi'u harchifo, y byddant hefyd yn ymddangos yn yr adroddiad rydych yn rhedeg.
  4. Os ydych am ddewis adroddiad sy'n gofyn am 'Attendance', bydd gofyn i chi lenwi'r dyddiadau 'From' a 'To'. 

Adroddiadau gronynnog wedi'u hidlo'n benodol

  1. Gellir wneud yr adroddiadau gronynnog wedi'u hidlo yn yr adran ‘People’, gan ddefnyddio'r opsiwn 'Show Filters'. (I ddarganfod mwy am hidlo cliciwch yma)
  2. Wrth glicio ar hwn, rhoddir y gallu i hidlo’n bellach. Yma gallwch ddewis gofynion penodol iawn sydd eisiau yn eich adroddiad.
  3. Gallwch 'Add new Filters' a dewis o'r gwymplen i roi mwy fyth o hyblygrwydd i chi gyda'ch adroddiad..  Ar ôl dewis yr hidlydd ychwanegol, bydd hwn yn cael ei ychwanegu at y maes hidlo cyffredinol. Ee DOB ac E-byst..
  4. Bydd y rhestr hidlwyr hefyd yn rhoi'r gallu i chi hidlo yn ôl unrhyw 'Custom Fields' byddwch wedi'u creu. (i ddarganfod mwy o am meysydd y gellir eu haddasu cliciwch yma )
  5. Ar ôl i chi ddewis eich hidlwyr penodol, gallwch nawr ychwanegu'r colofnau i'ch adroddiad. Dewis cwymp yw hwn ac yma gallwch ychwanegu cymaint ag sy'n ofynnol yn eich adroddiad.
  6. Unwaith y byddwch yn hapus â'ch dewis gallwch wedyn 'Export CSV'

Rydym hefyd yn cynnig adroddiadau pwrpasol y gellir eu gwneud ar gais, ond gallai'r rhain cael cost bellach yn gysylltiedig â nhw.