Mae hyn yn eich galluogi i gopïo cofnod person gyda'r holl wybodaeth neu'r wybodaeth ofynnol i grŵp arall.
Dim ond grwpiau gydag is-grwpiau a defnyddwyr sydd â mynediad at ddata a rennir o'r is-grwpiau hynny sy’n gallu gwneud hyn. Os yw rhannu data wedi'i analluogi naill ai yn y cofnod gwreiddiol neu’r is-grŵp, ni ellir copïo defnyddwyr.
- O'r tabl Pobl, dewiswch ddata’r is-grŵp yr hoffech ei weld
- Dewch o hyd i'r cofnod rydych am ei gopïo, cliciwch yr enw a dewiswch Copïo o'r naidlen
- Dewiswch faint o ddata yr ydych am ei gopïo i'r grŵp newydd, mae hyn yn cynnwys pob maes personol os yw'r ddau grŵp yn cynnwys yr un opsiynau. Bydd Rôl y defnyddiwr hefyd yn cael ei chopïo.
- Nesaf, dewiswch y grŵp rydych am gopïo'r cofnod iddo
- Dylech gadarnhau hyn
Fel y dywed y cadarnhad terfynol, bydd cofnod y person yn aros yn y lleoliad gwreiddiol.
Unwaith y bydd cofnod y person wedi'i gopïo, gellir eu gwahodd i'r grŵp newydd i roi mynediad iddynt yn seiliedig ar eu rôl ddewisol.
Yna gellir archifo'r cofnod gwreiddiol os nad oes ei angen mwyach.